Lle Aeth Pawb?

Lle Aeth Pawb?

Lle Aeth Pawb? Jabas

Nos Fawrth 11 Mai, 20:25 S4C

Stop Press! Bydd cyfres gyntaf Jabas yn cael ei hailddangos ar S4C rhwng Mai 10-14 am 18.30.

Ar ddiwedd yr wythdegau dim ond un gyfres oedd yn mynd â bryd cynulleidfa ifanc Cymru - Jabas oedd honno! Ond be ddigwyddodd i Jabas, Picsi, Glenda a'r lleill?

Mewn rhaglen arbennig o Lle Aeth Pawb? cawn ateb i’r cwestiwn wrth i Jabas Jones (yr actor Owain Gwilym) a’i gyfeillion ddod at ei gilydd i aildynnu’r llun uchod – dros ugain mlynedd ar ôl i’r gwreiddiol gael ei dynnu.

1987 oedd hi pan dynnwyd y llun o gast Jabas ar y traeth ym Mhen Llýn ond mae na lu o Jabas-garwyr ar hyd a lled Cymru sy’n cofio’r llun eiconig hwn fel petai wedi cael ei dynnu ddoe!

Creodd Jabas Jones a’i griw argraff fawr ar gynulleidfa Cymru – Jabas oedd yr opera sebon cyntaf i bobl ifanc ar deledu Cymraeg – ac mae’r ffans, y rhan fwya’n ferched (!) - yn dal i gofio helyntion y criw!

Cawn glywed wrth aelodau o Glwb Edmygwyr Owain Gwilym am yr argraff a gafodd y gyfres arnyn nhw tra’n cael cipolwg ar rai o uchafbwyntiau’r rhaglen.

Ac wrth i’r actorion ddodd ynghyd ar gyfer aduniad arbenning, cawn glywed am yr agraff a wnaeth y gyfres arnynt hwythau. Wedi’r cyfan, gwaneth Jabas rai ohonynt yn sêr dros nos, sut wnaethon nhw ymdopi â hynny?

Jabas

 

Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.

Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C