Lle Aeth Pawb?

Polisi Preifatrwydd a Chwcis

Mae'r nodyn isod yn egluro ein polisi ynglyn â'r wybodaeth bersonol y casglwn amdanoch.

  1. Cyflwyniad

    Mae'r polisi hwn yn ymwneud â defnydd Cwmni Da o'ch gwybodaeth bersonol y casglwn pan fyddwch yn ymweld â gwefannau Cwmni Da. Mae'r polisi hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi ynglyn â Cwcis, defnydd trydydd parti Cwmni Da o ddefnydd Cwcis a sut y gallwch wrthod Cwcis o'r fath. O bryd i'w gilydd, bydd gofyn i chi anfon gwybodaeth bersonol (e.e. enw a chyfeiriad ebost) er mwyn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaethau Cwmni Da ar y we. Cynnwys gwasanaethau o'r fath gylchlythyron, cystadlaethau, sgyrsiau byw neu aelodaeth o wefan.

    Drwy roi eich manylion yn y blychau perthnasol, rydych yn caniatau Cwmni Da a'n darparwyr gwasanaeth i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych yn tanysgrifio iddo. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol o'r fath, byddwn yn trin y wybodaeth yn unol â'r canllawiau a nodir yn y polisi hwn. Pan ddefnyddiwn eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth gyfredol ac fe wnawn bob ymdrech i gyrraedd yr arfer orau ar y we.

  2. Gwybodaeth i'r defnyddiwr

    Yn ystod unrhyw ymweliad â gwefannau Cwmni Da, bydd y tudalennau y gwelwch, ynghyd â ffeil testun a elwir yn 'cwci', yn cael eu dadlwytho i'ch cyfrifiadur. Mae nifer o wefannau yn gwneud hyn, gan bod Cwcis yn caniatau cyhoeddwyr gwefannau i gyflawni pethau defnyddiol megis darganfod os yw'r cyfrifiadur (a'i ddefnyddiwr mae'n debyg) wedi ymweld â'r wefan o'r blaen. Gwneir hyn pan yn ymweld â'r wefan eto a bydd y cyfrifiadur yn chwilio a darganfod y cookie a osodwyd yno ar yr ymweliad ddiwethaf.

  3. Beth yw cwci?

    Mae cwcis yn recordio patrwm eich defnydd arlein. Prif bwrpas Cwcis ydi i adnabod defnyddwyr a pharatoi tudalennau arbennig ar eu cyfer. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan sy'n defnyddio cwcis, mae'n bosib y bydd yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gan ddarparu gwybodaeth megis eich enw a'ch diddordebau. Mae'r wybodaeth hwn yn cael ei becynnu i cwci ac fe'i anfonir at eich porwr sy'n ei storio tan eich ymweliad nesaf. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r wefan, bydd eich porwr yn anfonn cwci at weinydd y we. Gall y gweinydd ddefnyddio'r wybodaeth hwn i gyflwyno tudalennau sydd wedi eu dylunio'n arbennig at chwaeth y gynulleidfa darged. Er enghraifft, yn hytrach na gweld tudalen groeso gyffredinol, drwy gael cwcis ar eich peiriant, mae'n bosib i chi weld tudalen groeso gyda'ch enw arni.

    Mae gan bob defnyddiwr yr opsiwn i'w cyfrifiaduron dderbyn cwcis, i'w hysbysu pan mae cwci am gael ei ddefnyddio, neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw bryd. Byddai dewis yr opsiwn olaf yma, yn golygu wrth gwrs, na fyddai rhannau o wefannau ar gael i'r defnyddiwr hwnnw all olygu yn y pendraw na fydd y defnyddiwr yn gallu cymryd mantais llawn o holl nodweddion gwefannau Cwmni Da. Mae pob porwr yn wahanol felly cymrwch olwg ar ddewislen 'Help' eich porwr i ddysgu sut i newid eich opsiynau.

    Os ydych wedi dewis yr opsiwn i beidio â derbyn cwcis, gallwch barhau i edrych ar wefannau Cwmni Da tan eich bod eisiau cofrestru am wasanaethau ar wefannau Cwmni Da. Am wybodaeth bellach ynglyn â cwcis a sut i'w dileu, cymrwch olwg yma www.aboutcookies.org

  4. Defnyddio a storio eich gwybodaeth bersonol

    Pan ydych yn darparu gwybodaeth bersonol drwy unrhyw un o wefannau Cwmni Da (ee. cystadlaethau), mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol yn y modd y defnyddiwn eich data. Rhaid i ni gasglu eich gwybodaeth yn deg, hynny yw, rhaid i ni egluro i chi sut y bwriadwn ddefnyddio'r data (gweler hysbysiadau preifatrwydd ar dudalennau penodol ar ein gwefannau sy'n dweud wrthoch pam mae angen y wybodaeth arnom) a dweud wrthoch os ydym eisiau pasio'r wybodaeth ymlaen at unrhyw un arall.

    Yn gyffredinol, mae unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu i Cwmni Da yn cael ei ddefnyddio gan Cwmni Da ac unrhyw un o'i asiantaethau neu ddarparwyr gwasanaeth yn unig. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddatgelu pan fo gorfodaeth arnom neu yn unol â'r gyfraith. Hefyd, os ydych yn postio neu anfon cynnwys ymosodol, anaddas neu annymunol unrhyw le ar dudalennau y we Cwmni Da neu yn ymgymryd ag ymddygiad aflonyddol ar wefannau Cwmni Da, gall Cwmni Da ddefnyddio unrhyw wybodaeth sydd ar gael amdanoch i wahardd agwedd o'r fath. Gall hyn olygu hysbysu staff perthnasol trydydd parti megis eich darparwr we/ebost ac asiantaethau gweithredu'r gyfraith ynglyn â'r cynnwys a'ch agwedd.

    Byddwn yn dal eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau am cyn hired ag y defnyddiwch y gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, ac yna ei ddileu pan fo'r pwrpas y tanysgrifioch i'r gwasanaeth wedi dirwyn i ben. Byddwn hefyd yn dileu eich manylion mewn achos o pryd yr ydych yn dymuno gorffen aelodaeth i glwb arlein neu wefan. Pan fo gwybodaeth yn cael ei gadw am unigolion nad ydynt wedi cofrestru eto ond wedi eisoes wedi cymryd rhan mewn gwasanaethau eraill ar y wefan (ee cystadlaethau), cedwir y wybodaeth hwnnw am cyn hired a'i fod yn angenrheidiol i sicrhau fod y gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn. Byddwn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei gadw'n saff, yn unol â'r Ddeddf Gwarchod Data 1998.

    Os oes hysbysiad ar wefan Cwmni Da y gall eich manylion gael eu defnyddio er mwyn i Cwmni Da gysylltu â chi ar gyfer rhesymau gweinyddu'r gwasanaeth, golyga hyn y gall Cwmni Da gysylltu â chi am nifer o resymau yn ymwneud â'r gwasanaeth yr ydych wedi tanysgrifio iddo. Er enghraifft, falle y byddwn eisiau eich darparu â nodyn atgof am gyfrineiriau neu eich hysbysu am wasanaeth yr ydych wedi tanysgrifio iddo sydd wedi ei ohirio oherwydd gwaith cynnal a chadw. Ni fyddwn yn cysylltu â chi ar gyfer pwrpas hyrwyddo, heblaw eich bod yn cytuno'n arbennig i ni eich cysylltu am y fath bwrpas pan ydych yn darparu eich gwybodaeth, neu rhywbryd yn ddiweddarach i dderbyn gwybodaeth hyrwyddo o'r fath.

  5. Mynediad at eich gwybodaeth bersonol

    Mae gennych yr hawl i wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei ddal amdanoch ac i gywiro unrhyw gamgymeriadau. (Rydym yn codi ffi o £10 am wybodaeth o'r fath). Cyfeiriwch eich cais at y Swyddog Gwarchod Data Cwmni Da, Parc Ty Glas, Llanishen, Cardiff, CF14 5DU.

  6. Defnyddwyr o dan 16 oed

    Os ydych yn 16 neu o dan 16, bydd angen i chi ofyn am ganiatad rhiant neu warchodwr pan fyddwch yn daparu gwybodaeth i wefannau Cwmni Da. Ni chewch ddarparu unrhyw wybodaeth drwy wefannau Cwmni Da heb y caniatad hwn.

 

Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.

Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C