Lle aeth Huwcyn? Lle aeth Meical Mwnci? Lle Aeth Cen Cangarw?!
Mae na 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i gyfres eiconig Ffalabalam ddiddanu cenhedlaeth gyfan o blant – a chychwyn sawl gyrfa lwyddiannus i wynebau cyfarwydd y sianel!
Ac mae na ugain mlynedd ers i’r llun yma gael ei dynnu o griw o blant yn eistedd yng nghanol eira pentref Ffalabalam ymhlith y teganau!
Kevin Davies oedd yn eu canol y diwrnod hwnnw adeg Nadolig 1989 ac mae ganddo atgofion melys o’i gyfnod hir yn y pentref ond i Ceri Tudno, sydd wrth ochr Kevin, dyma ei swydd gyntaf un.
Yn yr ugain mlynedd ers tynnu’r llun beth yw hanes y plant sydd nawr yn eu hugeiniau? A beth ddigwyddodd i’r holl deganau?
Mewn rhifyn Nadolig arbennig o Lle Aeth Pawb mae Kevin a Ceri yn ceisio dod o hyd i’r plant yn y llun – a cheisio dod o hyd i Huwcyn a’i holl ffrindiau – cyn dod a nhw yn ôl i ail-dynnu’r llun ym mhentref Ffalabalam.
Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.
Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.
Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C