Lle Aeth Pawb?

Lle Aeth Pawb?

Rocio hefo'r Ceffyl Pren

Mae hi'n bedwar o'r gloch y bore ac mae 'na griw bywiog yn dal i joio yn nhy bwyta Indo Cymru yng Nghaerdydd.

Yn eu mysg mae dau aelod o'r band Ceffyl Pren sy'n ymlacio yng nghwmni rhai o'u ffans ar ol gig hynod lwyddiannus yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Ond mae na fwy i'r stori na hynny...

Beth yw atgofion y criw am y noson yma nôl yn 1984 tybed, a lle mae pawb erbyn hyn?

Dim ond un o nifer o luniau difyr o'r gorffennol fydd hwn i gael ei osod dan y chwydd wydr mewn cyfres newydd sbon o'r enw Lle Aeth Pawb fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan.

Bydd llun gwahanol yn cael sylw ymhob un o'r rhaglenni, a'r nod fydd olrhain hynt a helynt y sawl sy'n ymddangos ymhob un o'r lluniau cyn dod a phawb yn ol at eu gilydd i ail-greu'r llun gwreiddiol.

Pwy sydd yn y llun?

Olwen Williams

"Mae dros 20 mlynedd wedi pasio ers y noson honno yng Nghaerdydd a'r criw a'r band wedi hen chwalu," meddai.

"Roedd hi'n dipyn o job dod o hyd i bawb gan fod rhai bellach yn byw dramor."

Meinir Thompson

Daw Meinir o Lanbynmair yn wreiddiol, ond bellach mae'n byw yn Llantrisant.

Tim Lewis

Tim oedd drymar y band a fo oedd yn gyfrifol am drefnu rhai o'r stynts cyhoeddusrwydd gwyllt oedd mor nodweddiadol o'r band yn yr 80'au. Ond pa un ydi o yn y llun? Pam fod Tim bellach yn byw yn y Swistir, a beth yw'r sypreis mae o wedi ei drefnu i weddill y criw?

Oeddech chi'n ffan o Ceffyl Pren?

Oes gennych chi atgofion am un o'u gigs neu stori dda? Gadewch eich sylwadau ar y negesfwrdd.

 

Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.

Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C