Cyhoeddwyd cyfrol o emynau i blant, Clap a Chan i Dduw, yn 1983 ac ar y clawr mae llun o griw o blant yn canu'n hwyliog. Mae'n llyfr i'w weld hyd heddiw mewn ysgolion ac chapeli ar hyd a lled Cymru, ond pwy ydy'r plant yn y llun, a lle mae nhw rwan?
Elin Howell yw un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau ger Aberystwyth sy'n mynd ar drywydd ei hen ffrindiau yn y llun. Mae Elin yn fam ac yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, ond lle mae pawb arall wedi mynd a pha mor anodd fydd hi i gael pawb yn ol at eu gilydd. Oes na rywun wedi cadw mewn cysylltiad ers dyddiau ysgol gynradd?
Pa un o'r criw sydd bellach yn wyneb cyfarwydd ar deledu yng Nghymru? Pa un sydd wedi dychwelyd i Gymru rol teithio'r byd a phwy sy'n dal i fyw a gweithio yn yr ardal?
Ydych chi'n cofio canu emynau o lyfr Clap a Chan i Dduw?
Oes gennych chi atgofion am un o'u gigs neu stori dda? Gadewch eich sylwadau ar y negesfwrdd.
Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.
Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.
Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C