Lle Aeth Pawb?

Lle Aeth Pawb?

Lle Aeth Stripars Caernarfon?

Tynnwyd y llun yma dros bymtheg mlynedd yn ôl - y tro cyntaf, a'r olaf - i griw o stripars ymddangos ar lwyfan yn nhre Caernarfon. Ond pwy ydy'r merched oedd yn cael modd i fyw y noson honno? Lle mae nhw rwan, a fydda nhw'n fodlon cyfadde mai nhw sydd yn y llun?

Bu cryn stwr yng Nghaernarfon 'nôl yn 1991 pan gyhoeddwyd y bydde criw o stripars, Climax, yn ymddangos ar lwyfan clwb nôs Y Dôm yn y dref. Doedd aelodau 'parchus' cymdeithas ddim am i bobl Caernarfon groesawu'r fath adloniant, ond doedd cannoedd o ferched yr ardal ddim yn cytuno.

I ddweud y gwir, roedd merched o bob oed, ac o bell ac agos yn ciwio am docynnau, ac ar y noson roedd y clwb yn llawn i'r ymylon gyda bron i fil o ferched. Roedd rhai wedi teithio o bentrefi cyfagos fel Llanrug a Deiniolen a llond bws wedi dod o Lannerchymedd ym Môn.

Un o'r ychydig ddynion ymysg y merched ar y noson oedd Arwyn Roberts, ffotograffydd Yr Herald, oedd yno i gofnodi'r noson hanesyddol ar ran y papur lleol. Cwta ddwy flynedd wedi'r noson fythgofiadwy roedd y clwb yn y newyddion unwaith eto pan gafodd ei losgi yn ulw, gan ddod a chyfnod yn hanes cymdeithasol tre Caernarfon i ben.

Angela, un o genod Llanberis sydd bellach yn magu teulu ac yn byw yn Llangybi yn Eifionydd sy'n cofio'r noson a sy'n mynd ar drywydd y wynebau eraill yn y llun. Fydd hi'n llwyddo i ddod o hyd i'r merched oedd yn amlwg yn mwynhau'r noson, a fydda nhw'n fodlon dychwelyd i'r dref er mwyn ail greu'r llun? Beth ddaeth o'r dynion ifanc siapus oedd yn cynnal yr adloniant tybed a lle mae nhw erbyn hyn?

Oeddech chi yn y gynulleidfa'r noson honno? Beth yw eich atgofion chi am y Dôm yng Nghaernarfon?

Oes gennych chi atgofion am un o'u gigs neu stori dda? Gadewch eich sylwadau ar y negesfwrdd.

 

Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.

Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C