Byddwch cystal ag adolygu'r telerau ac amodau isod os gwelwch yn dda. Ni fydd modd defnyddio gwefan Lle Aeth Pawb hyd nes i chi gytuno i'r amodau a thelerau yma. Drwy ddefnyddio gwasanaeth gwefan Lle Aeth Pawb, fe dybir eich bod wedi cytuno a derbyn i ymrwymo i'r telerau ac amodau hyn. Mae S4C a Cwmni Da yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un o'r safle os ydynt yn credu bod rhywrai yn torri'r telerau ac amodau canlynol:
Ni fydd cwmni Da na S4C yn rhannu gwybodaeth sy'n cael ei roi drwy'r broses cofrestru i drydydd parti oni bai fod 'na gwyn ynglŷn â chamddefnydd neu os bydd na achos cyfreithiol yn dilyn neges sydd wedi ei roi gennych chi. Mae Cwmni Da a S4C yn cadw'r hawl i ddatgelu pwy ydych chi ac unrhyw wybodaeth arall er mwyn cydymffurfio a'r broses honno.
Ail ddarllenwch y rheolau o bryd i'w gilydd. Mae Cwmni Da a S4C yn cadw'r hawl i addasu'r rheolau heb roi rhybudd, ac mae'ch defnydd o wefan Lle Aeth Pawb yn dynodi eich bod yn cytuno i'r rheolau.
Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus ac rydym yn annog defnyddwyr i fod yn groesawgar a chefnogol - ond cofiwch fod yr hyn yr ydych yn ei roi ar y wefan yn gallu cael ei weld gan filoedd o bobl bob dydd.
Mae'n gallu bod yn beryglus i roi manylion personol (rhif ffôn, cyfeiriad) ar y wefan, neu drefnu i gyfarfod rhywun yn bersonol. Mae'r math yma o wefan yn agored i unrhyw un. Cofiwch am eich diogelwch personol. Fe fyddwn ni yn tynnu unrhyw fanylion personol o'r natur yma oddi ar y wefan.
Mae unrhyw berson neu sefydliad sy'n defnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon yn cymryd y cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain ac ni fydd Cwmni Da na S4C yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw achosion fydd yn codi o hyn.
Mae unrhyw farn neu wybodaeth ymddangosir ar y bwrdd trafod yn perthyn i'r sawl a'i gosododd yno yn unig ac nid yw o angenrhaid yn adlewyrchu barn, polisi a chyngor Cwmni Da na S4C. Cyfrifoldeb yr awdur yn unig ydi'r cynnwys.
Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.
Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.
Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C