Drwy Ymuno neu Menwgofnodi, gallwch adael Sylw neu awgrymu allweddeiriau.
Blwyddyn y tynnwyd y llun: 1989
Ymhle tynnywd y llun yma? Beth ydi'r hanes tu ol i siwmper yr arweinydd?
Mae Alun Guy wedi cysylltu a lleaethpawb gyda'r hanes. Dyma sydd ganddo i'w ddweud am y llun..... "Roedd y siwmper yn anrheg oddi wrth dwy o ddisgyblion y 6ed dosbarth-Ffion Williams a Sally Jones, ac rown i'n hynod falch ohoni!. Ar y blaen mae motif cello Symffoni 6 Tchaikovsky-gwaith gosod 1984 Safon A Cerdd. Golchwyd y siwmper mewn dwr cynnes, ac erbyn dod allan o'r peiriant roedd fel siwmper doli! Ni wedodd fy ngwraig air wrthyf ond aeth allan a phrynu'r gwlan ac ail weu'r siwmper. Wyddwn i ddim mai'r ail-siwmper ydoedd am flynyddoedd lawer. Fe gyffesodd gyda threigl amser! Pwy arall sydd yn y llun?
- Postiwyd gan: lleaethpawb
- Postiwyd ar: 2007-11-28 15:38:22
- Cwyno am y sylw
Cysylltwch â Lle Aeth Pawb gydag unrhyw ymholiad.
Darllenwch y Polisi Preifatrwydd & Telerau ac Amodau os gwelwch yn dda.
Lle Aeth Pawb © Cwmni Da ac S4C